Cymraeg
Wrth gwrs! Dydyn ni ddim angen mynediad i du mewn eich ty gan yr ydym yn dod a’n offer a dwr arbennig ein hunan. Mi wnawn ni adael cerdyn trwy’r blwch post i adael i chi wybod ein bod wedi bod draw.
Byddem yn postio’r bil i chi trwy’r blwch post a fydd a manylion BACS arno, neu gallwch yrri siec i ni gyda’r amlen a fydd gyda’r bil! Neu, wrth gwrs, gallen drefnu i ddod draw rhywdro eto pan byddech ar gael.
Rydym wastad yn trefnu gyda chi o flaen llaw ynglyn a pa ddiwrnod hoffech chi i ni ddod fel y gallech ein disgwyl.
Mae hyn fyny i chi, a’r tywydd! Rydym yn tueddu i ddod draw yua unwaith bob mis (pob 4 wythnos), ond os oes well gennych chi i ni ddod draw bob 2 neu 6 wythnos, nid yw hynny’n broblem!
Mi ddown allan os yw hi’n bwrw glaw, ond dim os yw hi’r bwrw’n drwm neu yn hynod o wyntog oherwydd ein offer. Bydden ni wastad yn eich galw os na allen ni fynychu ac ail-drefnu amser gwell.
Ewch i’n tudalen “Prisiau” am syniad o’n cost. Mae’n anodd bod yn fanwl arlein gan fod pob adeilad yn wahanol a ni allen roi amcanbris heb drafod gyda chi, neu heb weld eich adeilad. Bydd y pris yn dibynu ar lawer o bethau, er enghraifft gyda glanhau ffenestri – pa mor aml ydych chi yn eu glanhau, y math o ffenestri, m,ynediad at eich ffenestri, a.y.y.b.
Os oes rhywun ar gael ar y diwrnod, a mae’n gyfleus, yr un diwrnod! Os ddim, cyn gynted ag y bydd aelod o’n tim ar gael ag mae’n gyfleus i chi.
Ydym – rydym wedi ein yswirio hyd at werth o £5 miliwn.

